‘Tithau hefyd,’ meddai wrth hwn yn ei dro, ‘bydd yn bennaeth ar bum tref.’ Yna daeth y trydydd gan ddweud, ‘Meistr, dyma dy ddarn aur. Fe'i cedwais yn ddiogel mewn cadach. Yr oedd arnaf dy ofn di. Yr wyt yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.’ ‘Â'th eiriau dy hun,’ atebodd ef, ‘y'th gondemniaf, y gwas drwg. Yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill. Pam felly na roddaist fy arian mewn banc? Buasai wedi ennill llog erbyn imi ddod i'w godi.’ Yna meddai wrth y rhai oedd yno, ‘Cymerwch y darn aur oddi arno a rhowch ef i'r un a chanddo ddeg darn.’ ‘Meistr,’ meddent hwy wrtho, ‘y mae ganddo ddeg darn yn barod.’ Rwy'n dweud wrthych, i bawb y mae ganddynt y rhoddir, ond oddi ar y rhai nad oes ganddynt fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddynt. A'm gelynion, y rheini na fynnent fi yn frenin arnynt, dewch â hwy yma a lladdwch hwy yn fy ngŵydd.” Wedi dweud hyn aeth rhagddo ar ei ffordd i fyny i Jerwsalem, gan gerdded ar y blaen. Pan gyrhaeddodd yn agos i Bethffage a Bethania, ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion gan ddweud, “Ewch i'r pentref gyferbyn. Wrth ichwi ddod i mewn iddo cewch yno ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. Ac os bydd rhywun yn gofyn i chwi, ‘Pam yr ydych yn ei ollwng?’, dywedwch fel hyn: ‘Y mae ar y Meistr ei angen.’ ”
Darllen Luc 19
Gwranda ar Luc 19
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 19:19-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos