Yr oedd yr holl gasglwyr trethi a'r pechaduriaid yn nesáu ato i wrando arno. Ond yr oedd y Phariseaid a'r ysgrifenyddion yn grwgnach ymhlith ei gilydd, gan ddweud, “Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid ac yn cydfwyta gyda hwy.” A dywedodd ef y ddameg hon wrthynt: “Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar ôl y ddafad golledig nes dod o hyd iddi? Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen, yn mynd adref, ac yn gwahodd ei gyfeillion a'i gymdogion ynghyd, gan ddweud wrthynt, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'm dafad golledig.’ Rwy'n dweud wrthych, yr un modd bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy'n edifarhau nag am naw deg a naw o rai cyfiawn nad oes arnynt angen edifeirwch. “Neu bwriwch fod gan wraig ddeg darn arian, a digwydd iddi golli un darn; onid yw hi'n cynnau cannwyll ac yn ysgubo'r tŷ ac yn chwilio'n ddyfal nes dod o hyd iddo? Ac wedi dod o hyd iddo, y mae'n gwahodd ei chyfeillesau a'i chymdogion ynghyd, gan ddweud, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'r darn arian a gollais.’ Yr un modd, rwy'n dweud wrthych, y mae llawenydd ymhlith angylion Duw am un pechadur sy'n edifarhau.”
Darllen Luc 15
Gwranda ar Luc 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 15:1-10
7 days
Can you imagine feeling so seen by God that you can’t help but see others? Can you imagine your everyday, ordinary life having a significant eternal impact? This 7-day devotional from Christine Caine will help you discover how God has seen you, chosen you, and sent you to see others and to help them feel seen the way God sees them—with 20/20 vision.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos