Yna adroddodd ddameg wrth y gwesteion, wrth iddo sylwi sut yr oeddent yn dewis y seddau anrhydedd: “Pan wahoddir di gan rywun i wledd briodas, paid â chymryd y lle anrhydedd, rhag ofn ei fod wedi gwahodd rhywun amlycach na thi; oherwydd os felly, daw'r sawl a'ch gwahoddodd chwi'ch dau a dweud wrthyt, ‘Rho dy le i hwn’, ac yna byddi dithau mewn cywilydd yn cymryd y lle isaf. Yn hytrach, pan wahoddir di, dos a chymer y lle isaf, fel pan ddaw'r gwahoddwr y dywed wrthyt, ‘Gyfaill, tyrd yn uwch’; yna dangosir parch iti yng ngŵydd dy holl gyd-westeion. Oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun.”
Darllen Luc 14
Gwranda ar Luc 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 14:7-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos