Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 12

12
Rhybudd rhag Rhagrith
1Yn y cyfamser yr oedd y dyrfa wedi ymgynnull yn ei miloedd, nes eu bod yn sathru ei gilydd dan draed. Dechreuodd ef ddweud wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, “Gochelwch rhag surdoes y Phariseaid, hynny yw, eu rhagrith. 2Nid oes dim wedi ei guddio nas datguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod. 3Am hyn, popeth y buoch yn ei ddweud yn y tywyllwch, fe'i clywir yng ngolau dydd; a'r hyn y buoch yn ei sibrwd yn y glust mewn ystafelloedd o'r neilltu, fe'i cyhoeddir ar bennau'r tai.
Pwy i'w Ofni
Mth. 10:28–31
4“Rwy'n dweud wrthych chwi fy nghyfeillion, peidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ac sydd wedi hynny heb allu i wneud dim pellach. 5Ond dangosaf i chwi pwy i'w ofni: ofnwch yr hwn sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern wedi'r lladd; ie, rwy'n dweud wrthych, ofnwch hwnnw. 6Oni werthir pump aderyn y to am ddwy geiniog? Eto nid yw un ohonynt yn angof gan Dduw. 7Yn wir, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni; yr ydych yn werth mwy na llawer o adar y to.
Cyffesu Crist gerbron Eraill
Mth. 10:32–33; 12:32; 10:19–20
8“Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag a'm harddel i gerbron eraill, bydd Mab y Dyn hefyd yn eu harddel hwy gerbron angylion Duw; 9ond y sawl sydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, fe'i gwedir ef gerbron angylion Duw. 10Caiff pwy bynnag a ddywed air yn erbyn Mab y Dyn, faddeuant; ond ni faddeuir i'r sawl sy'n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân. 11Pan ddygant chwi gerbron y synagogau a'r ynadon a'r awdurdodau, peidiwch â phryderu am ddull nac am gynnwys eich amddiffyniad, nac am eich ymadrodd; 12oherwydd bydd yr Ysbryd Glân yn eich dysgu chwi ar y pryd beth fydd yn rhaid ei ddweud.”
Dameg yr Ynfytyn Cyfoethog
13Meddai rhywun o'r dyrfa wrtho, “Athro, dywed wrth fy mrawd am roi i mi fy nghyfran o'n hetifeddiaeth.” 14Ond meddai ef wrtho, “Ddyn, pwy a'm penododd i yn farnwr neu yn gymrodeddwr rhyngoch?” 15A dywedodd wrthynt, “Gofalwch ymgadw rhag trachwant o bob math, oherwydd, er cymaint ei gyfoeth, nid yw bywyd neb yn dibynnu ar ei feddiannau.” 16Ac adroddodd ddameg wrthynt: “Yr oedd tir rhyw ŵr cyfoethog wedi dwyn cnwd da. 17A dechreuodd feddwl a dweud wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi, oherwydd nid oes gennyf unman i gasglu fy nghnydau iddo?’ 18Ac meddai, ‘Dyma beth a wnaf fi: tynnaf f'ysguboriau i lawr ac adeiladu rhai mwy, a chasglaf yno fy holl ŷd a'm heiddo. 19Yna dywedaf wrthyf fy hun, “Ddyn, y mae gennyt stôr o lawer o bethau ar gyfer blynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.” ’ 20Ond meddai Duw wrtho, ‘Yr ynfytyn, heno y mynnir dy einioes yn ôl gennyt, a phwy gaiff y pethau a baratoaist?’ 21Felly y bydd hi ar y rhai sy'n casglu trysor iddynt eu hunain a heb fod yn gyfoethog gerbron Duw.”
Gofal a Phryder
Mth. 6:25–34, 19–21
22Meddai wrth ei ddisgyblion, “Am hynny rwy'n dweud wrthych, peidiwch â phryderu am eich bywyd nac am eich corff, beth i'w fwyta na beth i'w wisgo. 23Oherwydd y mae mwy i fywyd rhywun na bwyd, a mwy i'w gorff na dillad. 24Ystyriwch y brain: nid ydynt yn hau nac yn medi, nid oes ganddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu bwydo. Gymaint mwy gwerthfawr ydych chwi na'r adar! 25A ph'run ohonoch a all ychwanegu munud at ei oes#12:25 Neu, y maint lleiaf at ei daldra. trwy bryderu? 26Felly os yw hyd yn oed y peth lleiaf y tu hwnt i'ch gallu, pam yr ydych yn pryderu am y gweddill? 27Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; ond rwy'n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i'w chymharu ag un o'r rhain. 28Os yw Duw yn dilladu felly y glaswellt, sydd heddiw yn y meysydd ac yfory yn cael ei daflu i'r ffwrn, gymaint mwy y dillada chwi, chwi o ychydig ffydd! 29A chwithau, peidiwch â rhoi eich bryd ar beth i'w fwyta a beth i'w yfed, a pheidiwch â byw mewn pryder; 30oherwydd dyna'r holl bethau y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond y mae gennych chwi Dad sy'n gwybod fod arnoch eu hangen. 31Ceisiwch yn hytrach ei deyrnas ef, a rhoir y pethau hyn yn ychwaneg i chwi. 32Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd gwelodd eich Tad yn dda roi i chwi'r deyrnas. 33Gwerthwch eich eiddo a rhowch ef yn elusen; gwnewch i chwi eich hunain byrsau nad ydynt yn treulio, trysor dihysbydd yn y nefoedd, lle nad yw lleidr yn dod ar y cyfyl, na gwyfyn yn difa. 34Oherwydd lle mae eich trysor, yno hefyd y bydd eich calon.
Gweision Gwyliadwrus
Mth. 24:45–51
35“Bydded eich gwisg wedi ei thorchi a'ch canhwyllau ynghynn. 36Byddwch chwithau fel rhai yn disgwyl dychweliad eu meistr o briodas, i agor iddo cyn gynted ag y daw a churo. 37Gwyn eu byd y gweision hynny a geir ar ddihun gan eu meistr pan ddaw; yn wir, rwy'n dweud wrthych y bydd ef yn torchi ei wisg, ac yn eu gosod wrth y bwrdd, ac yn dod ac yn gweini arnynt. 38Ac os daw ef ar hanner nos neu yn yr oriau mân, a'u cael felly, gwyn eu byd. 39A gwybyddwch hyn: pe buasai meistr y tŷ yn gwybod pa bryd y byddai'r lleidr yn dod, ni fuasai wedi gadael iddo dorri i mewn i'w dŷ. 40Chwithau hefyd, byddwch barod, oherwydd pryd na thybiwch y daw Mab y Dyn.”
41Meddai Pedr, “Arglwydd, ai i ni yr wyt yn adrodd y ddameg hon, ai i bawb yn ogystal?” 42Dywedodd yr Arglwydd, “Pwy ynteu yw'r goruchwyliwr ffyddlon a chall a osodir gan ei feistr dros ei weision, i roi eu dogn bwyd iddynt yn ei bryd? 43Gwyn ei fyd y gwas hwnnw a geir yn gwneud felly gan ei feistr pan ddaw; 44yn wir, rwy'n dweud wrthych y gesyd ef dros ei holl eiddo. 45Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, ‘Y mae fy meistr yn oedi dod’, a dechrau curo'r gweision a'r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi, 46yna bydd meistr y gwas hwnnw yn cyrraedd ar ddiwrnod annisgwyl iddo ef ac ar awr nas gŵyr; ac fe'i cosba yn llym, a gosod ei le gyda'r anffyddloniaid. 47Bydd y gwas hwnnw sy'n gwybod ewyllys ei feistr, ac eto heb ddarparu na gwneud dim yn ôl ei ewyllys, yn cael curfa dost; 48ond bydd y gwas nad yw'n gwybod, ond sydd wedi haeddu curfa, yn cael un ysgafn. Disgwylir llawer gan y sawl a dderbyniodd lawer; a gofynnir llawer mwy yn ôl gan yr un y mae llawer wedi ei ymddiried iddo.
Iesu'n Achos Ymraniad
Mth. 10:34–36
49“Yr wyf fi wedi dod i fwrw tân ar y ddaear, ac O na fyddai eisoes wedi ei gynnau! 50Y mae bedydd y mae'n rhaid fy medyddio ag ef, a chymaint yw fy nghyfyngder hyd nes y cyflawnir ef! 51A ydych chwi'n tybio mai i roi heddwch i'r ddaear yr wyf fi wedi dod? Nage, meddaf wrthych, ond ymraniad. 52Oherwydd o hyn allan bydd un teulu o bump wedi ymrannu, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri:
53“ ‘Ymranna'r tad yn erbyn y mab
a'r mab yn erbyn y tad,
y fam yn erbyn ei merch
a'r ferch yn erbyn ei mam,
y fam-yng-nghyfraith yn erbyn y ferch-yng-nghyfraith
a'r ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith.’ ”
Dehongli'r Amser
Mth. 16:2–3
54Dywedodd wrth y tyrfaoedd hefyd, “Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yr ydych yn dweud ar unwaith, ‘Daw yn law’, ac felly y bydd; 55a phan welwch wynt y de yn chwythu, yr ydych yn dweud, ‘Daw yn wres’, a hynny fydd. 56Chwi ragrithwyr, medrwch ddehongli'r olwg ar y ddaear a'r ffurfafen, ond sut na fedrwch ddehongli'r amser hwn?
Cymodi â'th Wrthwynebwr
Mth. 5:25–26
57“A pham nad ydych ohonoch eich hunain yn barnu beth sydd yn iawn? 58Pan wyt yn mynd gyda'th wrthwynebwr at yr ynad, gwna dy orau ar y ffordd yno i gymodi ag ef, rhag iddo dy lusgo gerbron y barnwr, ac i'r barnwr dy draddodi i'r cwnstabl, ac i'r cwnstabl dy fwrw i garchar. 59Rwy'n dweud wrthyt, ni ddoi di byth allan oddi yno cyn talu'n ôl y geiniog olaf un.”

Dewis Presennol:

Luc 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd