Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth bobl Israel, ‘Os bydd unrhyw un o bobl Israel, neu o'r estroniaid sy'n byw yn Israel, yn rhoi un o'i blant i Moloch, rhodder ef i farwolaeth. Y mae pobl y wlad i'w labyddio â cherrig. Byddaf fi yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl, oherwydd trwy roi ei blant i Moloch gwnaeth fy nghysegr yn aflan a halogi fy enw sanctaidd. Os bydd pobl y wlad yn cau eu llygaid ar hwnnw pan fydd yn rhoi un o'i blant i Moloch, ac yn peidio â'i roi i farwolaeth, byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn hwnnw a'i deulu, ac yn ei dorri ymaith o blith ei bobl, a hefyd bawb sy'n ei ddilyn i buteinio ar ôl Moloch. Byddaf yn gosod fy wyneb yn erbyn y sawl sy'n troi at ddewiniaid a swynwyr i buteinio ar eu holau, a byddaf yn ei dorri ymaith o blith ei bobl. Ymgysegrwch a byddwch sanctaidd, oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw. Yr ydych i gadw fy neddfau a'u gwneud. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eich sancteiddio.
Darllen Lefiticus 20
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Lefiticus 20:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos