Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch; anghofiais beth yw daioni. Yna dywedais, “Diflannodd fy nerth, a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.” Cofia fy nhrallod a'm crwydro, y wermod a'r bustl. Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad, ac wedi fy narostwng. Meddyliaf yn wastad am hyn, ac felly disgwyliaf yn eiddgar. Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD, ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau. Y maent yn newydd bob bore, a mawr yw dy ffyddlondeb. Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan, am hynny disgwyliaf wrtho.”
Darllen Galarnad 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Galarnad 3:17-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos