Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 3:7-13

Josua 3:7-13 BCND

Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, “Heddiw yr wyf am ddechrau dy ddyrchafu yng ngolwg Israel gyfan, er mwyn iddynt sylweddoli fy mod i gyda thi fel y bûm gyda Moses. Felly gorchymyn di i'r offeiriaid sy'n cludo arch y cyfamod, ‘Pan ddewch at lan dyfroedd yr Iorddonen, safwch ynddi.’ ” Dywedodd Josua wrth yr Israeliaid, “Nesewch a gwrandewch eiriau'r ARGLWYDD eich Duw. Dyma sut y byddwch yn gwybod bod y Duw byw yn eich mysg, a'i fod yn sicr o yrru allan o'ch blaen y Canaaneaid, Hethiaid, Hefiaid, Peresiaid, Girgasiaid, Amoriaid a Jebusiaid: bydd arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn croesi o'ch blaen drwy'r Iorddonen. Felly dewiswch yn awr ddeuddeg dyn o blith llwythau Israel, un o bob llwyth. Pan fydd gwadnau traed yr offeiriaid sy'n cludo arch yr ARGLWYDD, Arglwydd yr holl ddaear, yn cyffwrdd â'r Iorddonen, fe wahenir ei dyfroedd, a bydd y dŵr sy'n llifo i lawr oddi uchod yn cronni'n un pentwr.”