Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 2:12-21

Josua 2:12-21 BCND

Am hynny, tyngwch i mi yn enw'r ARGLWYDD, am i mi wneud caredigrwydd â chwi, y gwnewch chwithau'r un modd â'm teulu i; rhowch imi sicrwydd y cadwch yn fyw fy nhad a'm mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, a phawb sy'n perthyn iddynt, ac yr arbedwch ein bywydau rhag angau.” Dywedodd y dynion wrthi, “Byddwn yn barod i farw yn eich lle, dim ond i chwi beidio â datgelu'n cyfrinach; pan fydd yr ARGLWYDD wedi rhoi inni'r wlad, fe wnawn garedigrwydd a thegwch â thi.” Yna gollyngodd Rahab hwy i lawr drwy'r ffenestr ar raff, oherwydd yr oedd ei thŷ ar fur y ddinas, a hithau'n byw ar y mur. Dywedodd wrthynt, “Ewch tua'r mynydd, rhag i'r rhai sy'n eich ymlid daro arnoch; cuddiwch yno dridiau, nes i'r ymlidwyr ddychwelyd, ac wedyn ewch eich ffordd eich hun.” Dywedodd y dynion wrthi, “Byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu, pan fyddwn yn dod i mewn i'r wlad, os na fyddi wedi rhwymo'r edau ysgarlad hon yn y ffenestr y gollyngaist ni drwyddi, ac wedi galw ynghyd i'r tŷ dy dad a'th fam, dy frodyr a'th deulu i gyd. Pwy bynnag a â allan trwy ddrws dy dŷ, bydd yn gyfrifol am ei waed ei hun, a byddwn ni'n ddieuog; ond pwy bynnag a fydd gyda thi yn y tŷ, byddwn ni'n gyfrifol am ei waed os codir llaw yn ei erbyn. Os datgeli ein cyfrinach, byddwn yn rhydd o'r llw y gwnaethost inni ei dyngu iti.” Atebodd hithau, “Rwy'n cytuno”; ac anfonodd hwy ar eu taith. Wedi iddynt fynd, rhwymodd yr edau ysgarlad yn y ffenestr.