Wedi marw Moses gwas yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses, “Y mae fy ngwas Moses wedi marw; yn awr, croesa di a'r holl bobl hyn yr Iorddonen yma i'r wlad yr wyf fi'n ei rhoi i blant Israel. Rhof i chwi bob llecyn y bydd gwadn eich troed yn cerdded drosto, fel y dywedais wrth Moses. Bydd eich terfyn yn ymestyn o'r anialwch a Lebanon hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates, sef holl wlad yr Hethiaid, hyd at y Môr Mawr yn y gorllewin. Ni saif neb o'th flaen tra byddi byw; byddaf gyda thi fel y bûm gyda Moses; ni'th adawaf na chefnu arnat. Bydd yn gryf a dewr; oherwydd ti fydd yn rhoi i'r bobl hyn feddiant o'r wlad yr addewais ei rhoi i'w hynafiaid. Yn unig bydd yn gryf a dewr iawn, a gofala weithredu yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iti. Paid â gwyro oddi wrthi i'r dde na'r chwith, er mwyn iti ffynnu ple bynnag yr ei. Nid yw'r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr wyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn iti ofalu gwneud y cyfan sy'n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi'n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu. Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei.”
Darllen Josua 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Josua 1:1-9
1 Week
Learn what the Bible says about boldness and confidence. The "Courage" Reading Plan encourages believers with reminders of who they are in Christ and in God's kingdom. When we belong to God, we're free to approach Him directly. Read again – or maybe for the first time – assurances that your place in God's family is secure.
10 Days
Whether you’re praising God for His grace or wrestling with your faith, God will always meet you with His unchanging love, truth, and strength. Step into a community of women committed to growing closer to God and each other through trusting that He is and always will be enough.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos