Canwch utgorn yn Seion,
bloeddiwch ar fy mynydd sanctaidd.
Cryned holl drigolion y wlad
am fod dydd yr ARGLWYDD yn dyfod;
y mae yn agos—
dydd o dywyllwch ac o gaddug,
dydd o gymylau ac o ddüwch.
Fel cysgod yn ymdaenu dros y mynyddoedd,
wele luoedd mawr a chryf;
ni fu eu bath erioed,
ac ni fydd ar eu hôl ychwaith
am genedlaethau dirifedi.
Ysa tân o'u blaen
a llysg fflam ar eu hôl.
Y mae'r wlad o'u blaen fel gardd Eden,
ond ar eu hôl yn anialwch diffaith,
ac ni ddianc dim rhagddo.
Y maent yn ymddangos fel ceffylau,
ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
Fel torf o gerbydau
neidiant ar bennau'r mynyddoedd;
fel sŵn fflamau tân yn ysu sofl,
fel byddin gref yn barod i ryfel.
Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt,
a gwelwa pob wyneb.
Rhuthrant fel milwyr,
dringant y mur fel rhyfelwyr;
cerdda pob un yn ei flaen
heb wyro o'i reng.
Ni wthiant ar draws ei gilydd,
dilyn pob un ei lwybr ei hun;
er y saethau, ymosodant
ac ni ellir eu hatal.
Rhuthrant yn erbyn y ddinas,
rhedant dros ei muriau,
dringant i fyny i'r tai,
ânt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron.
Ysgwyd y ddaear o'u blaen
a chryna'r nefoedd.
Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu
a'r sêr yn atal eu goleuni.
Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin;
y mae ei lu yn fawr iawn,
a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf.
Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD,
ac ofnadwy, a phwy a'i deil?
“Yn awr,” medd yr ARGLWYDD,
“dychwelwch ataf â'ch holl galon,
ag ympryd, wylofain a galar.
Rhwygwch eich calon, nid eich dillad,
a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.”
Graslon a thrugarog yw ef,
araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb,
ac yn edifar ganddo wneud niwed.
Pwy a ŵyr na thry a thosturio,
a gadael bendith ar ei ôl—
bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
Canwch utgorn yn Seion,
cyhoeddwch ympryd,
galwch gymanfa,
cynullwch y bobl.
Neilltuwch y gynulleidfa,
cynullwch yr henuriaid,
casglwch y plant,
hyd yn oed y babanod.
Doed y priodfab o'i ystafell
a'r briodferch o'i siambr.
Rhwng y porth a'r allor
wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD,
a dweud, “Arbed dy bobl, O ARGLWYDD.
Paid â gwneud dy etifeddiaeth yn warth
ac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd.
Pam y dywedir ymysg y bobloedd,
‘Ple mae eu Duw?’ ”
Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir,
a thrugarhau wrth ei bobl.
Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl,
“Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olew
nes eich digoni;
ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.
Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych,
a'i yrru i dir sych a diffaith,
â'i reng flaen at fôr y dwyrain
a'i reng ôl at fôr y gorllewin;
bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi,
am iddo ymorchestu.”
Paid ag ofni, ddaear;
bydd lawen a gorfoledda,
oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.
Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion,
oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas;
bydd y coed yn dwyn ffrwyth,
a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.
Blant Seion, byddwch lawen,
gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw;
oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol;
fe dywallt y glawogydd ichwi,
y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.
Bydd y llawr dyrnu yn llawn o ŷd
a'r cafnau yn orlawn o win ac olew.
“Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedd
a ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr,
y locust difaol a'r cyw locust,
fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.”
“Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni,
a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw,
a wnaeth ryfeddod â chwi.
Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
Cewch wybod fy mod i yng nghanol Israel,
ac mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw, ac nid neb arall.
Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.”