Aeth Job ymlaen â'i ddadl, gan ddweud: “O na byddwn fel yn yr amser gynt, yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod, pan wnâi i'w lamp oleuo uwch fy mhen, a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch; pan oeddwn yn nyddiau f'anterth, a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan; pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi, a'm plant o'm cwmpas. Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth, ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.
Darllen Job 29
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Job 29:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos