“Er i goeden gael ei thorri, y mae gobaith iddi ailflaguro, ac ni pheidia ei blagur â thyfu. Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear, ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd, pan synhwyra ddŵr fe adfywia, ac fe flagura fel planhigyn ifanc. Ond pan fydd rhywun farw, â'n ddinerth, a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach. Derfydd y dŵr o'r llyn; disbyddir a sychir yr afon; felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd, ni ddeffry tra pery'r nefoedd, ac nis cynhyrfir o'i gwsg.
Darllen Job 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Job 14:7-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos