Gofynasant iddo felly, “Pwy wyt ti?” Atebodd Iesu hwy, “Yr wyf o'r dechrau yr hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych. Gallwn ddweud llawer amdanoch, a hynny mewn barn. Ond y mae'r hwn a'm hanfonodd i yn eirwir, a'r hyn a glywais ganddo ef yw'r hyn yr wyf yn ei gyhoeddi i'r byd.” Nid oeddent hwy'n deall mai am y Tad yr oedd yn llefaru wrthynt. Felly dywedodd Iesu wrthynt, “Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw, ac nad wyf yn gwneud dim ohonof fy hun, ond fy mod yn dweud yr union bethau y mae'r Tad wedi eu dysgu imi. Ac y mae'r hwn a'm hanfonodd i gyda mi; nid yw wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, oherwydd yr wyf bob amser yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd ef.” Wrth iddo ddweud hyn, daeth llawer i gredu ynddo. Yna dywedodd Iesu wrth yr Iddewon oedd wedi credu ynddo, “Os arhoswch chwi yn fy ngair i, yr ydych mewn gwirionedd yn ddisgyblion i mi. Cewch wybod y gwirionedd, a bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau.”
Darllen Ioan 8
Gwranda ar Ioan 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 8:25-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos