Ac yr oedd yn rhaid iddo fynd trwy Samaria. Felly daeth i dref yn Samaria o'r enw Sychar, yn agos i'r darn tir a roddodd Jacob i'w fab Joseff. Yno yr oedd ffynnon Jacob, a chan fod Iesu wedi blino ar ôl ei daith eisteddodd i lawr wrth y ffynnon. Yr oedd hi tua hanner dydd. Dyma wraig o Samaria yn dod yno i dynnu dŵr. Meddai Iesu wrthi, “Rho i mi beth i'w yfed.” Yr oedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dref i brynu bwyd. A dyma'r wraig o Samaria yn dweud wrtho, “Sut yr wyt ti, a thithau'n Iddew, yn gofyn am rywbeth i'w yfed gennyf fi, a minnau'n wraig o Samaria?” (Wrth gwrs, ni bydd yr Iddewon yn rhannu'r un llestri â'r Samariaid.) Atebodd Iesu hi, “Pe bait yn gwybod beth yw rhodd Duw, a phwy sy'n gofyn iti, ‘Rho i mi beth i'w yfed’, ti fyddai wedi gofyn iddo ef a byddai ef wedi rhoi i ti ddŵr bywiol.” “Syr,” meddai'r wraig wrtho, “nid oes gennyt ddim i dynnu dŵr, ac y mae'r pydew'n ddwfn. O ble, felly, y mae gennyt y ‘dŵr bywiol’ yma? A wyt ti'n fwy na Jacob, ein tad ni, a roddodd y pydew inni, ac a yfodd ohono, ef ei hun a'i feibion a'i anifeiliaid?” Atebodd Iesu hi, “Bydd pawb sy'n yfed o'r dŵr hwn yn profi syched eto; ond pwy bynnag sy'n yfed o'r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o'i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol.”
Darllen Ioan 4
Gwranda ar Ioan 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 4:4-14
3 Days
As women, we often find ourselves juggling many different roles in life. But in the midst of this busyness, it's important to remember who we are at our core: God's Chosen Women, or the Woman in Christ. This identity is the foundation of our lives, shaping our relationship with God and others. Join us over the next three days as we explore this identity in more depth!
7 Days
New Year. A New Day. God created these transitions to remind us that He is the God of New Beginnings. If God can speak the world into existence, He can certainly speak into the darkness of your life, creating for you a new beginning. Don’t you just love fresh starts! Just like this reading plan. Enjoy!
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos