“Os yw'r byd yn eich casáu chwi, fe wyddoch ei fod wedi fy nghasáu i o'ch blaen chwi. Pe baech yn perthyn i'r byd, byddai'r byd yn caru'r eiddo'i hun. Ond gan nad ydych yn perthyn i'r byd, oherwydd i mi eich dewis chwi allan o'r byd, y mae'r byd yn eich casáu chwi. Cofiwch y gair a ddywedais i wrthych: ‘Nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr.’ Os erlidiasant fi, fe'ch erlidiant chwithau; os cadwasant fy ngair i, fe gadwant yr eiddoch chwithau. Fe wnânt hyn oll i chwi o achos fy enw i, am nad ydynt yn adnabod yr hwn a'm hanfonodd i. Pe buaswn i heb ddod a llefaru wrthynt, ni buasai ganddynt bechod. Ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod. Y mae'r sawl sy'n fy nghasáu i yn casáu fy Nhad hefyd. Pe na buaswn wedi gwneud gweithredoedd yn eu plith na wnaeth neb arall, ni buasai ganddynt bechod. Ond yn awr y maent wedi gweld, ac wedi casáu fy Nhad a minnau. Ond rhaid oedd cyflawni'r gair sy'n ysgrifenedig yn eu Cyfraith hwy: ‘Y maent wedi fy nghasáu heb achos.’ “Pan ddaw'r Eiriolwr a anfonaf fi atoch oddi wrth y Tad, sef Ysbryd y Gwirionedd, sy'n dod oddi wrth y Tad, bydd ef yn tystiolaethu amdanaf fi. Ac yr ydych chwi hefyd yn tystiolaethu, am eich bod gyda mi o'r dechrau.
Darllen Ioan 15
Gwranda ar Ioan 15
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 15:18-27
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos