Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 12:20-36

Ioan 12:20-36 BCND

Ymhlith y bobl oedd yn dod i fyny i addoli ar yr ŵyl, yr oedd rhyw Roegiaid. Daeth y rhain at Philip, a oedd o Bethsaida yng Ngalilea, a gofyn iddo, “Syr, fe hoffem weld Iesu.” Aeth Philip i ddweud wrth Andreas; ac aeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu. A dyma Iesu'n eu hateb. “Y mae'r awr wedi dod,” meddai, “i Fab y Dyn gael ei ogoneddu. Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth. Y mae'r sawl sy'n caru ei einioes yn ei cholli; a'r sawl sy'n casáu ei einioes yn y byd hwn, bydd yn ei chadw i fywyd tragwyddol. Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad. “Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf. Beth a ddywedaf? ‘O Dad, gwared fi rhag yr awr hon’? Na, i'r diben hwn y deuthum i'r awr hon. O Dad, gogonedda dy enw.” Yna daeth llais o'r nef: “Yr wyf wedi ei ogoneddu, ac fe'i gogoneddaf eto.” Pan glywodd y dyrfa oedd yn sefyll gerllaw, dechreusant ddweud mai taran oedd; dywedodd eraill, “Angel sydd wedi llefaru wrtho.” Atebodd Iesu, “Nid er fy mwyn i, ond er eich mwyn chwi, y daeth y llais hwn. Dyma awr barnu'r byd hwn; yn awr y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan. A minnau, os caf fy nyrchafu oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf fy hun.” Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros. Yna atebodd y dyrfa ef: “Yr ydym ni wedi dysgu o'r Gyfraith fod y Meseia i aros am byth. Sut yr wyt ti'n dweud, felly, bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu? Pwy yw'r Mab y Dyn yma?” Dywedodd Iesu wrthynt, “Am ychydig amser eto y bydd y goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra bo'r goleuni gennych, rhag i'r tywyllwch eich goddiweddyd. Nid yw'r sawl sy'n rhodio yn y tywyllwch yn gwybod lle y mae'n mynd. Tra bo'r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, ac felly plant y goleuni fyddwch.”

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd