Myfi yw'r bugail da. Y mae'r bugail da yn rhoi ei einioes dros y defaid. Y mae'r gwas cyflog, nad yw'n fugail nac yn berchen y defaid, yn gweld y blaidd yn dod ac yn gadael y defaid ac yn ffoi; ac y mae'r blaidd yn eu hysglyfio ac yn eu gyrru ar chwâl. Y mae'n ffoi am mai gwas cyflog yw, ac am nad oes ofal arno am y defaid. Myfi yw'r bugail da; yr wyf yn adnabod fy nefaid, a'm defaid yn f'adnabod i, yn union fel y mae'r Tad yn f'adnabod i, a minnau'n adnabod y Tad. Ac yr wyf yn rhoi fy einioes dros y defaid. Y mae gennyf ddefaid eraill hefyd, nad ydynt yn perthyn i'r gorlan hon. Rhaid imi ddod â'r rheini i mewn, ac fe wrandawant ar fy llais. Yna bydd un praidd ac un bugail. Y mae'r Tad yn fy ngharu i oherwydd fy mod yn rhoi fy einioes, i'w derbyn eilwaith. Nid yw neb yn ei dwyn oddi arnaf, ond myfi ohonof fy hun sy'n ei rhoi. Y mae gennyf hawl i'w rhoi, ac y mae gennyf hawl i'w derbyn eilwaith. Hyn a gefais yn orchymyn gan fy Nhad.”
Darllen Ioan 10
Gwranda ar Ioan 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 10:11-18
3 days
God has gone before us and protects us from behind. He has our battles already handled. He has the blindside covered. He isn’t surprised by curveballs. This focused 3-day devotional will leave you encouraged in the truth that God is the provider of the exact portion, the exact measure, for your life.
7 Days
Amy Groeschel has written this seven-day Bible Plan in hopes it will be taken as straight from our loving Father’s heart to yours. Her prayer is that it teaches you to avoid the opposing clamor and awakens you to focus on His voice.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos