Yn y dechreuad yr oedd y Gair; yr oedd y Gair gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Yr oedd ef yn y dechreuad gyda Duw. Daeth pob peth i fod trwyddo ef; hebddo ef ni ddaeth un dim sydd mewn bod. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd, goleuni dynion ydoedd. Y mae'r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw'r tywyllwch wedi ei drechu ef. Daeth dyn wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan. Daeth hwn yn dyst, i dystiolaethu am y goleuni, er mwyn i bawb ddod i gredu trwyddo. Nid ef oedd y goleuni, ond daeth i dystiolaethu am y goleuni. Yr oedd y gwir oleuni, sy'n goleuo pawb, eisoes yn dod i'r byd. Yr oedd yn y byd, a daeth y byd i fod trwyddo, ac nid adnabu'r byd mohono. Daeth i'w gynefin ei hun, ac ni dderbyniodd ei bobl ei hun mohono. Ond cynifer ag a'i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy'n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw, plant wedi eu geni nid o waed nac o ewyllys cnawd nac o ewyllys gŵr, ond o Dduw. A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad. Y mae Ioan yn tystio amdano ac yn cyhoeddi: “Hwn oedd yr un y dywedais amdano, ‘Y mae'r hwn sy'n dod ar f'ôl i wedi fy mlaenori i, oherwydd yr oedd yn bod o'm blaen i.’ ”
Darllen Ioan 1
Gwranda ar Ioan 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 1:1-15
5 Days
Need more of God's grace, favor, and blessing? Then pray these five simple prayers of humility, asking the Lord to favor you and help you. He will answer your prayer; He gives grace to the humble! And if you humble yourself before the Lord, He will lift you up.
7 días
Desde el principio de los tiempos, la Palabra de Dios ha restaurado corazones y mentes de manera activa: Y Dios no ha terminado aún. En este Plan especial de 7 días, celebremos el poder que transforma vidas de la Escritura observando más detenidamente cómo Dios está usando la Biblia para impactar en la historia y cambiar vidas alrededor del mundo.
12 Days
Over the next 12 days, we’re going to take a journey through the Christmas story and discover not only why it’s the greatest story ever told, but also how Christmas is truly for everyone!
Conversations With God is a joyous immersion into a more intimate prayer life, emphasizing practical ways to hear God's voice. God wants us to enjoy a running conversation with Him all of our lives—a conversation that makes all the difference in direction, relationships, and purpose. This plan is filled with transparent, personal stories about the reaching heart of God. He loves us!
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos