Aeth llu'r Caldeaid i ymlid y brenin, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho, a'i holl lu ar wasgar oddi wrtho. Daliwyd y brenin, a'i ddwyn o flaen brenin Babilon yn Ribla, yng ngwlad Hamath; a barnwyd ei achos ef. Lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid; lladdodd hefyd holl benaethiaid Jwda yn Ribla. Yna fe dynnodd lygaid Sedeceia, a'i rwymo â chadwyni, a dygodd brenin Babilon ef i Fabilon, a'i roi mewn carchar hyd ddydd ei farw.
Yn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar, brenin Babilon, daeth Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu oedd yn gwasanaethu'r brenin, i Jerwsalem, a llosgi â thân dŷ'r ARGLWYDD, a thŷ'r brenin, a'r holl dai yn Jerwsalem, sef holl dai y bobl fawr. Drylliodd llu y Caldeaid, a oedd gyda phennaeth y gosgorddlu, yr holl furiau oedd yn amgylchu Jerwsalem. Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, weddill y bobl dlawd a adawyd ar ôl yn y ddinas, a hefyd y rhai a giliodd at frenin Babilon, ynghyd â gweddill y crefftwyr. Ond gadawodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac amaethwyr.
Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD, a'r trolïau a'r môr pres yn nhŷ'r ARGLWYDD, a chymryd y pres i Fabilon; cymerasant hefyd y crochanau, y rhawiau, y sisyrnau, y cawgiau, y thuserau, a'r holl lestri pres a oedd yng ngwasanaeth y deml. Cymerodd pennaeth y gosgorddlu y celfi o fetel gwerthfawr, yn aur ac yn arian—ffiolau, pedyll tân, cawgiau, crochanau, canwyllbrennau, thuserau, a chwpanau diodoffrwm. Nid oedd terfyn ar bwysau'r pres yn yr holl lestri hyn, sef y ddwy golofn, y môr a'r deuddeg ych pres oddi tano, a'r trolïau yr oedd Solomon wedi eu gwneud i dŷ'r ARGLWYDD. Ynglŷn â'r colofnau: yr oedd y naill yn ddeunaw cufydd o uchder, a'i hamgylchedd yn ddeuddeg cufydd; yr oedd yn wag o'i mewn, a thrwch y metel yn bedair modfedd. Ar ei phen yr oedd cnap pres, a'i uchder yn bum cufydd, a rhwydwaith a phomgranadau o amgylch y cnap, y cwbl o bres. Ac yr oedd y golofn arall, gyda'i phomgranadau, yr un fath. Yr oedd naw deg a chwech o'r pomgranadau yn y golwg, a chant o bomgranadau i gyd, ar y rhwydwaith o amgylch.
Cymerodd pennaeth y gosgorddlu Seraia y prif offeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a thri cheidwad y drws; a chymerodd o'r ddinas y swyddog oedd yn gofalu am y gwŷr rhyfel, a saith o ddynion o blith cynghorwyr y brenin oedd yn parhau yn y ddinas, ac ysgrifennydd pennaeth y fyddin, a fyddai'n galw'r bobl i'r fyddin, a thrigain o'r werin a gafwyd yn y ddinas. Cymerodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, y rhai hyn, a mynd at frenin Babilon yn Ribla. Fflangellodd brenin Babilon hwy i farwolaeth yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o'i gwlad ei hun.