Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, yn y degfed mis, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon a'i holl lu yn erbyn Jerwsalem a gwarchae arni; ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd torrwyd bwlch ym mur y ddinas. Daeth holl swyddogion brenin Babilon i mewn a sefyll yn y Porth Canol, sef Nergal-sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal-sareser, Rabmag, a holl swyddogion eraill brenin Babilon. Pan welodd Sedeceia brenin Jwda a'i holl filwyr hwy, ffoesant a gadael y ddinas liw nos, gan ddilyn ffordd gardd y brenin i'r porth rhwng y ddau fur, ac allan i ffordd Araba. Ond canlynodd llu'r Caldeaid hwy, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho a'i ddal, a'i ddwyn at Nebuchadnesar brenin Babilon yn Ribla yng ngwlad Hamath; yno y dyfarnwyd arno. A lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid yn Ribla; a lladdodd brenin Babilon hefyd holl uchelwyr Jwda. Yna fe dynnodd lygaid Sedeceia, a'i rwymo mewn cadwynau pres i'w ddwyn i Fabilon. Llosgodd y Caldeaid â thân blasty'r brenin a thai'r bobl, a dryllio muriau Jerwsalem. Yna caethgludodd Nebusaradan, pennaeth y milwyr, weddill y bobl i Fabilon, sef y rhai oedd wedi eu gadael yn y ddinas, a'r rhai oedd wedi troi ato ef; a gadawodd yng ngwlad Jwda rai pobl dlawd nad oedd ganddynt ddim, a rhoi iddynt yr adeg honno winllannoedd a meysydd.
Darllen Jeremeia 39
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jeremeia 39:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos