Wedi i'r brenin losgi'r sgrôl a'r holl eiriau a ysgrifennodd Baruch o enau Jeremeia, daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud, “Cymer sgrôl arall, ac ysgrifenna arni'r holl eiriau oedd yn y sgrôl gyntaf, yr un a losgodd Jehoiacim brenin Jwda. A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Fe losgaist ti'r sgrôl hon, gan ddweud, “Pam yr ysgrifennaist arni fod brenin Babilon yn sicr o ddod ac anrheithio'r wlad hon, nes darfod dyn ac anifail oddi arni?” Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am Jehoiacim brenin Jwda: Ni bydd iddo neb i eistedd ar orsedd Dafydd; teflir allan ei gelain i wres y dydd a rhew'r nos. Ymwelaf ag ef ac â'i had a'i weision am eu drygioni, a dwyn arnynt hwy a thrigolion Jerwsalem a phobl Jwda yr holl ddinistr a leferais yn eu herbyn, a hwythau heb wrando.’ ” Yna cymerodd Jeremeia sgrôl arall, a'i rhoi i Baruch fab Nereia, yr ysgrifennydd, ac ysgrifennodd ef ynddi o enau Jeremeia holl eiriau'r llyfr a losgodd Jehoiacim brenin Jwda. Ychwanegodd atynt hefyd lawer o eiriau tebyg.
Darllen Jeremeia 36
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jeremeia 36:27-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos