Yna dywedodd Jeremeia, “Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, ‘Fe ddaw Hanamel, mab dy ewythr Salum, atat a dweud, “Pryn fy maes yn Anathoth, oherwydd gennyt ti y mae hawl perthynas agosaf i'w brynu.” ’ A daeth Hanamel, fy nghefnder, ataf i gyntedd y gwarchodlu, yn ôl gair yr ARGLWYDD, a dweud wrthyf, ‘Pryn, yn awr, fy maes yn Anathoth, yn nhir Benjamin, oherwydd gennyt ti y mae'r hawl i etifeddu a'r hawl i brynu; pryn ef iti.’ Gwyddwn wrth hyn mai gair yr ARGLWYDD ydoedd. Yna prynais y maes yn Anathoth gan fy nghefnder Hanamel, a phwysais iddo yr arian, dau sicl ar bymtheg. Arwyddais y gweithredoedd, a'u selio a chymryd tystion, a phwyso'r arian mewn cloriannau. Yna cymerais weithredoedd y pryniant, yr un a seliwyd yn ôl deddf a defod, a'r copi agored, a rhois weithredoedd y pryniant i Baruch fab Nereia, fab Maaseia, yng ngŵydd Hanamel fy nghefnder, ac yng ngŵydd y tystion a arwyddodd weithredoedd y pryniant, ac yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y gwarchodlu. Gorchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwy, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Cymer y gweithredoedd hyn, gweithredoedd y pryniant hwn, yr un a seliwyd a'r un agored, a'u dodi mewn llestr pridd, iddynt barhau dros gyfnod hir.’ Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, ‘Prynir eto dai a meysydd a gwinllannoedd yn y tir hwn.’