Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft, a hyd y dydd hwn yn Israel ac ymhlith pobloedd; gwnaethost i ti'r enw sydd gennyt heddiw. Daethost â'th bobl Israel allan o dir yr Aifft ag arwyddion a rhyfeddodau, ac â llaw gref a braich estynedig, a dychryn mawr; rhoist iddynt y wlad hon, y tyngaist wrth eu hynafiaid i'w rhoi iddynt, yn wlad yn llifeirio o laeth a mêl. Daethant hwy a'i meddiannu, ond ni fuont yn ufudd i'th lais, na rhodio yn dy gyfraith. Ni wnaethant ddim oll o'r hyn a orchmynnaist iddynt, a pheraist tithau i'r holl niwed hwn ddigwydd iddynt. Y mae'r cloddiau gwarchae wedi cyrraedd at y ddinas i'w goresgyn; trwy'r cleddyf a newyn a haint rhoir y ddinas yng ngafael y Caldeaid sy'n ymladd yn ei herbyn. Y mae'r hyn a ddywedaist wedi digwydd, fel y gweli.
Darllen Jeremeia 32
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jeremeia 32:20-24
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos