“Wedi imi roi gweithredoedd y pryniant i Baruch fab Nereia, gweddïais ar yr ARGLWYDD fel hyn: ‘O ARGLWYDD Dduw, gwnaethost y nefoedd a'r ddaear â'th fawr allu a'th fraich estynedig; nid oes dim yn amhosibl i ti. Yr wyt yn ffyddlon i filoedd, yn ad-dalu drygioni'r rhieni i'w plant ar eu hôl; Duw mawr, yr Un cadarn, ARGLWYDD y Lluoedd yw dy enw, mawr yn dy gyngor, nerthol yn dy weithred. Y mae dy lygaid ar holl ffyrdd rhai meidrol, i dalu i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd.
Darllen Jeremeia 32
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jeremeia 32:16-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos