Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 31:23-40

Jeremeia 31:23-40 BCND

Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: “Dywedir eto y gair hwn yn nhir Jwda a'i dinasoedd, pan adferaf ei llwyddiant: ‘Bendithied yr ARGLWYDD di, gartref cyfiawnder, fynydd sanctaidd.’ Yno bydd Jwda a'i dinasoedd yn preswylio ynghyd, yr amaethwyr a bugeiliaid y praidd; paraf wlychu llwnc y sychedig, a digoni pob un sydd yn nychu.” Ar hyn deffroais a sylwi, a melys oedd fy nghwsg imi. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail. Ac fel y gwyliais drostynt i ddiwreiddio a thynnu i lawr, i ddymchwel a dinistrio a pheri drwg, felly y gwyliaf drostynt i adeiladu a phlannu,” medd yr ARGLWYDD. “Yn y dyddiau hynny, ni ddywedir mwyach, ‘Y rhieni fu'n bwyta grawnwin surion, ond ar ddannedd y plant y mae dincod.’ Oherwydd bydd pob un yn marw am ei gamwedd ei hun; y sawl fydd yn bwyta grawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel ac â thŷ Jwda. Ni fydd yn debyg i'r cyfamod a wneuthum â'u hynafiaid, y dydd y gafaelais yn eu llaw i'w harwain allan o wlad yr Aifft. Torasant y cyfamod hwnnw, er mai myfi oedd yn arglwydd arnynt,” medd yr ARGLWYDD. “Ond dyma'r cyfamod a wnaf â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD; “rhof fy nghyfraith o'u mewn, ysgrifennaf hi ar eu calon, a byddaf fi'n Dduw iddynt a hwythau'n bobl i mi. Ac ni fyddant mwyach yn dysgu bob un ei gymydog a phob un ei berthynas, gan ddweud, ‘Adnebydd yr ARGLWYDD’; oblegid byddant i gyd yn f'adnabod, o'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd maddeuaf iddynt eu drygioni, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, sy'n rhoi'r haul yn oleuni'r dydd, a threfn y lleuad a'r sêr yn oleuni'r nos, sy'n cynhyrfu'r môr nes bod ei donnau'n rhuo (ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw): “Os cilia'r drefn hon o'm gŵydd,” medd yr ARGLWYDD, “yna bydd had Israel yn peidio hyd byth â bod yn genedl ger fy mron.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Pe gellid mesur y nefoedd fry, a chwilio sylfeini'r ddaear isod, gwrthodwn innau hefyd holl had Israel am yr holl bethau a wnaethant,” medd yr ARGLWYDD. “Y mae'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr ailadeiledir y ddinas i'r ARGLWYDD, o dŵr Hananel hyd Borth y Gongl, a gosodir y llinyn mesur eto gyferbyn â hi, dros fryn Gareb, a throi tua Goath. A bydd holl ddyffryn y celanedd a'r lludw, a'r holl feysydd hyd nant Cidron, hyd gongl Porth y Meirch yn y dwyrain, yn sanctaidd i'r ARGLWYDD. Ni ddiwreiddir mo'r ddinas, ac ni ddymchwelir mohoni mwyach hyd byth.”