Gwae'r sawl a adeilada'i dŷ heb gyfiawnder, a'i lofftydd heb farn, gan fynnu gwasanaeth ei gymydog yn rhad, heb roi iddo ddim am ei waith. Gwae'r sawl a ddywed, “Adeiladaf i mi fy hun dŷ eang ac iddo lofftydd helaeth.” Gwna iddo ffenestri, a phaneli o gedrwydd, a'i liwio â fermiliwn. A wyt yn d'ystyried dy hun yn frenin oherwydd i ti gystadlu mewn cedrwydd? Oni fwytaodd dy dad, ac yfed, gan wneud cyfiawnder a barn, ac yna bu'n dda arno? Barnodd ef achos y tlawd a'r anghenus, ac yna bu'n dda arno. “Onid hyn yw f'adnabod i?” medd yr ARGLWYDD. Nid yw dy lygad na'th galon ond ar dy enillion anghyfiawn, i dywallt gwaed dieuog ac i dreisio a gwneud cam.
Darllen Jeremeia 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jeremeia 22:13-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos