Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Melltigedig fo'r sawl sydd â'i hyder mewn meidrolyn, ac yn gwneud cnawd yn fraich iddo, ac yn gwyro oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd fel prysgwydd yn y diffeithwch; ni fydd yn gweld daioni pan ddaw. Fe gyfanhedda fannau moelion yr anialwch, mewn tir hallt heb neb yn trigo ynddo. Bendigedig yw'r sawl sy'n hyderu yn yr ARGLWYDD, a'r ARGLWYDD yn hyder iddo.
Darllen Jeremeia 17
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jeremeia 17:5-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos