Casgla dy bwn a dos allan o'r wlad, ti, yr hon sy'n trigo dan warchae. Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Dyma fi'n taflu allan drigolion y wlad y tro hwn; dygaf arnynt gyfyngder, ac fe deimlant hynny.” Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn, ond dywedais, “Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef.” Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd; aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy; nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni. Aeth y bugeiliaid yn ynfyd; nid ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD; am hynny nid ydynt yn llwyddo, ac y mae eu holl braidd ar wasgar. Clyw! Neges! Wele, y mae'n dod! Cynnwrf mawr o dir y gogledd, i wneud dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch ac yn drigfa bleiddiaid. Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd; ni pherthyn i'r teithiwr drefnu ei gamre. Cosba fi, ARGLWYDD, ond mewn barn, nid yn ôl dy lid, rhag iti fy niddymu. Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod, ac ar y teuluoedd nad ydynt yn galw ar dy enw. Canys y maent wedi bwyta Jacob, ei fwyta a'i ddifetha, ac wedi difodi ei drigfan.
Darllen Jeremeia 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jeremeia 10:17-25
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos