Yr oedd gan Gideon ddeg a thrigain o feibion; ei blant ei hun oeddent, oherwydd yr oedd llawer o wragedd ganddo. Hefyd cafodd fab o'i ordderch oedd yn Sichem, ac enwodd ef Abimelech. Bu farw Gideon fab Joas mewn gwth o oedran, a chladdwyd ef ym medd ei dad Joas yn Offra'r Abiesriaid. Wedi marw Gideon aeth yr Israeliaid unwaith eto i buteinio ar ôl y Baalim, a chymryd Baal-berith yn dduw iddynt. Ni chofiodd yr Israeliaid yr ARGLWYDD eu Duw, a'u gwaredodd o afael yr holl elynion o'u hamgylch, na dangos teyrngarwch i deulu Jerwbbaal, sef Gideon, am yr holl ddaioni a wnaeth i Israel.
Darllen Barnwyr 8
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Barnwyr 8:30-35
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos