Pan gododd pobl y ddinas yn gynnar yn y bore a gweld allor Baal wedi ei bwrw i lawr a'r pren Asera oedd yn ei hymyl wedi ei thorri, a'r ail ych wedi ei offrymu ar yr allor oedd wedi ei chodi, yna gofynnodd pawb i'w gilydd, “Pwy a wnaeth hyn?” Ar ôl chwilio a holi, dywedasant, “Gideon fab Joas sydd wedi gwneud hyn.” Yna dywedodd pobl y ddinas wrth Joas, “Tyrd â'th fab allan iddo gael marw, oherwydd y mae wedi bwrw i lawr allor Baal a thorri'r pren Asera oedd yn ei hymyl.” Ond meddai Joas wrth bawb oedd yn sefyll o'i gwmpas, “A ydych chwi am ddadlau achos Baal? A ydych chwi am ei achub ef? Rhoir pwy bynnag sy'n dadlau drosto i farwolaeth erbyn y bore. Os yw'n dduw, dadleued drosto'i hun am i rywun fwrw ei allor i lawr.” A'r diwrnod hwnnw galwyd Gideon yn Jerwbbaal—hynny yw, “Bydded i Baal ddadlau ag ef”—am iddo fwrw ei allor i lawr.
Darllen Barnwyr 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Barnwyr 6:28-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos