Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Midian am saith mlynedd. Am fod Midian yn drech nag Israel paratôdd yr Israeliaid lochesau iddynt eu hunain yn y mynyddoedd, a hefyd ogofeydd a chaerau. Bob tro y byddai'r Israeliaid wedi hau, byddai Midian ac Amalec a'r dwyreinwyr yn dod ac yn ymosod arnynt; byddent yn gwersyllu yn eu herbyn ac yn distrywio cnwd y ddaear cyn belled â Gasa, heb adael unrhyw beth byw yn Israel, na dafad nac ych nac asyn. Pan ddoent hwy a'u hanifeiliaid a'u pebyll, yr oeddent mor niferus â locustiaid; nid oedd rhifo arnynt hwy na'u camelod pan ddoent i'r wlad i'w difrodi. Felly aeth Israel yn dlawd iawn o achos Midian; yna galwodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD.
Darllen Barnwyr 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Barnwyr 6:1-6
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos