Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw'r Philistiaid am ddeugain mlynedd. Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Manoa o Sora, o lwyth Dan, ac yr oedd ei wraig yn ddi-blant, heb eni yr un plentyn. Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD i'r wraig a dweud wrthi, “Dyma ti yn ddi-blant, heb eni plentyn, ond byddi'n beichiogi ac yn geni mab. Felly, gwylia rhag yfed gwin na diod gadarn, a phaid â bwyta dim aflan, gan dy fod yn mynd i feichiogi a geni mab; ac nid yw ellyn i gyffwrdd â'i ben, oherwydd y mae'r bachgen i fod yn Nasaread i Dduw o'r groth. Ef fydd yn dechrau gwaredu Israel o law'r Philistiaid.”
Darllen Barnwyr 13
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Barnwyr 13:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos