Felly, cyffeswch eich pechodau i'ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn ichwi gael iachâd. Peth grymus iawn ac effeithiol yw gweddi y cyfiawn. Yr oedd Elias yn ddyn o'r un anian â ninnau, ac fe weddïodd ef yn daer am iddi beidio â glawio; ac ni lawiodd ar y ddaear am dair blynedd a chwe mis. Yna gweddïodd eilwaith, a dyma'r nefoedd yn arllwys ei glaw, a'r ddaear yn dwyn ei ffrwyth. Fy nghyfeillion, os digwydd i un ohonoch wyro oddi wrth y gwirionedd, ac i un arall ei droi'n ôl, boed iddo wybod hyn: bydd y sawl a drodd y pechadur o gyfeiliorni ei ffordd yn achub ei enaid rhag angau, ac yn dileu lliaws o bechodau.
Darllen Iago 5
Gwranda ar Iago 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Iago 5:16-20
7 Days
Taken from his book "AHA," join Kyle Idleman as he discovers the 3 elements that can draw us closer to God and change our lives for good. Are you ready for the God moment that changes everything?
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos