Dylai'r credadun distadl ymfalchïo pan ddyrchefir ef, ond yr un cyfoethog ymfalchïo pan ddarostyngir ef, oherwydd diflannu a wna hwnnw fel blodeuyn y maes. Bydd yr haul yn codi yn ei wres tanbaid, a bydd y glaswellt yn crino, ei flodeuyn yn syrthio, a thlysni ei wedd yn darfod. Felly hefyd y diflanna'r cyfoethog yng nghanol ei holl fynd a dod. Gwyn ei fyd y sawl sy'n dal ei dir mewn temtasiwn, oherwydd ar ôl iddo fynd trwy'r prawf fe gaiff, yn goron, y bywyd a addawodd yr Arglwydd i'r rhai sydd yn ei garu ef. Ni ddylai neb sy'n cael ei demtio ddweud, “Oddi wrth Dduw y daw fy nhemtasiwn”; oherwydd ni ellir temtio Duw gan ddrygioni, ac nid yw ef ei hun yn temtio neb. Yn wir, pan yw rhywun yn cael ei demtio, ei chwant ei hun sydd yn ei dynnu ar gyfeiliorn ac yn ei hudo. Yna, y mae chwant yn beichiogi ac yn esgor ar bechod, ac y mae pechod, ar ôl cyrraedd ei lawn dwf, yn cenhedlu marwolaeth. Peidiwch â chymryd eich camarwain, fy nghyfeillion annwyl. Oddi uchod y daw pob rhoi da a phob rhodd berffaith. Disgyn y maent oddi wrth Dad goleuadau'r nef; ac iddo ef ni pherthyn na chyfnewid na chysgod troadau'r rhod. O'i fwriad ei hun y cenhedlodd ef ni trwy air y gwirionedd, er mwyn inni fod yn fath o flaenffrwyth o'i greaduriaid.
Darllen Iago 1
Gwranda ar Iago 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Iago 1:9-18
12 Days
This Bible Plan is for anyone who’s hurting and doesn’t understand why. If you’ve lost something, someone, or your faith feels stretched to the breaking point, then this Bible Plan from Life.Church Pastor Craig Groeschel’s book, Hope in the Dark, might be exactly what you need. If you want to believe, but you’re not sure how, this is for you.
28 Days
Do you feel overwhelmed, dissatisfied, and stuck in a rut? Wishing your day-to-day life could improve? God's Word is your guide to brighter days. During this 28-day reading plan, you will discover ways you can go from living just a good life to living the type of better life that God desires you to have.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos