Yr oedd tŷ Dafydd wedi ei rybuddio bod Syria mewn cytundeb ag Effraim; ac yr oedd ei galon ef a'i bobl wedi cynhyrfu fel prennau coedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eseia, “Dos allan, a'th fab Sear-jasub gyda thi, i gyfarfod Ahas wrth derfyn pistyll y llyn uchaf ar ffordd Maes y Pannwr, a dywed wrtho, ‘Bydd ofalus, cadw'n dawel a phaid ag ofni; paid â digalonni o achos y ddau stwmp hyn o bentewynion myglyd, am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia yn llosgi gan lid. Oherwydd i Syria ac Effraim a mab Remaleia wneud cynllwyn drwg yn d'erbyn, a dweud, “Gadewch inni ymosod ar Jwda, a'i dychryn, a'i throi o'n plaid, a gosod brenin arni, sef mab Tabeal,” dyma y mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud
Darllen Eseia 7
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 7:2-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos