“Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch yn falch o'i herwydd, bawb sy'n ei charu; llawenhewch gyda hi â'ch holl galon, bawb a fu'n galaru o'i phlegid, er mwyn ichwi fedru sugno a chael eich diwallu o'i bronnau diddanus, er mwyn ichwi fedru tynnu arni a chael eich diddanu gan ddigonedd ei gogoniant.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Edrychwch, rwy'n estyn iddi heddwch fel afon, a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol. Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys, a'ch siglo ar ei gliniau. Fel y cysurir plentyn gan ei fam byddaf fi'n eich cysuro chwi; ac yn Jerwsalem y'ch cysurir. Cewch weld hyn, a bydd yn llawenydd i'ch calon, bydd eich holl gorff yn ffynnu fel llysieuyn; dangosir bod llaw yr ARGLWYDD gyda'i weision, a'i lid yn erbyn ei elynion.
Darllen Eseia 66
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 66:10-14
5 Days
For many, the holidays are a time of great joy...but what happens when the holidays lose their sparkle and become challenging due to deep grief or loss? This special reading plan will help those going through grief to find comfort and hope for the holidays, and shares how to create a meaningful holiday season in spite of deep grief.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos