Y mae gwirionedd yn eisiau, ac ysbeilir yr un sy'n ymwrthod â drygioni. Gwelodd yr ARGLWYDD hyn, ac yr oedd yn ddrwg yn ei olwg nad oedd barn i'w chael. Gwelodd nad oedd neb yn malio, rhyfeddodd nad oedd neb yn ymyrryd; yna daeth ei fraich ei hun â buddugoliaeth iddo, a chynhaliodd ei gyfiawnder ef. Gwisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; gwisgodd ddillad dialedd, a rhoi eiddigedd fel mantell amdano. Bydd yn talu i bawb yn ôl ei haeddiant— llid i'w wrthwynebwyr, cosb i'w elynion; bydd yn rhoi eu haeddiant i'r ynysoedd. Felly, ofnant enw'r ARGLWYDD yn y gorllewin, a'i ogoniant yn y dwyrain; oherwydd fe ddaw fel afon mewn llif yn cael ei gyrru gan ysbryd yr ARGLWYDD. “Fe ddaw gwaredydd i Seion, at y rhai yn Jacob sy'n cefnu ar wrthryfel,” medd yr ARGLWYDD. “Dyma,” medd yr ARGLWYDD, “fy nghyfamod â hwy. Bydd fy ysbryd i arnat, a gosodaf fy ngeiriau yn dy enau; nid ymadawant oddi wrthyt nac oddi wrth dy blant, na phlant dy blant, o'r pryd hwn hyd byth,” medd yr ARGLWYDD.
Darllen Eseia 59
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 59:15-21
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos