“Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais: tynnu ymaith rwymau anghyfiawn, a llacio clymau'r iau, gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd, a dryllio pob iau? Onid rhannu dy fara gyda'r newynog, a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ, dilladu'r noeth pan y'i gweli, a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun? Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr, a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan; bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen, a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn. Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb, a phan waeddi, fe ddywed, ‘Dyma fi.’ “Os symudi'r gorthrwm ymaith, os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam, os rhoddi o'th fodd i'r anghenus, a diwallu angen y cystuddiol, yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch, a bydd y caddug fel canol dydd. Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser, yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych, ac yn cryfhau dy esgyrn; yna byddi fel gardd ddyfradwy, ac fel ffynnon ddŵr a'i dyfroedd heb ballu.
Darllen Eseia 58
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 58:6-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos