Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “I'r eunuchiaid sy'n cadw fy Sabothau ac yn dewis y pethau a hoffaf ac yn glynu wrth fy nghyfamod, y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i'm muriau gofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched; rhof iddynt enw parhaol nas torrir ymaith. A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD, yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw, sy'n dod yn weision iddo ef, yn cadw'r Saboth heb ei halogi ac yn glynu wrth fy nghyfamod— dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd, a rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi, a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor; oherwydd gelwir fy nhŷ yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd,”
Darllen Eseia 56
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 56:4-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos