Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Cadwch farn, gwnewch gyfiawnder; oherwydd y mae fy iachawdwriaeth ar ddod, a'm goruchafiaeth ar gael ei datguddio. Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwneud felly, a'r un sy'n glynu wrth hyn, yn cadw'r Saboth heb ei halogi, ac yn ymgadw rhag gwneud unrhyw ddrwg.” Na ddyweded y dieithryn a lynodd wrth yr ARGLWYDD, “Yn wir y mae'r ARGLWYDD yn fy ngwahanu oddi wrth ei bobl.” Na ddyweded yr eunuch, “Pren crin wyf fi.” Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “I'r eunuchiaid sy'n cadw fy Sabothau ac yn dewis y pethau a hoffaf ac yn glynu wrth fy nghyfamod, y rhof yn fy nhŷ ac oddi mewn i'm muriau gofgolofn ac enw a fydd yn well na meibion a merched; rhof iddynt enw parhaol nas torrir ymaith. A'r dieithriaid sy'n glynu wrth yr ARGLWYDD, yn ei wasanaethu ac yn caru ei enw, sy'n dod yn weision iddo ef, yn cadw'r Saboth heb ei halogi ac yn glynu wrth fy nghyfamod— dygaf y rhain i'm mynydd sanctaidd, a rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi, a derbyn eu poethoffrwm a'u haberth ar fy allor; oherwydd gelwir fy nhŷ yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd,” medd yr Arglwydd DDUW, sy'n casglu alltudion Israel. “Casglaf ragor eto at y rhai sydd wedi eu casglu.”
Darllen Eseia 56
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 56:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos