Mi ganaf i'm hanwylyd ganig serch am ei winllan. Yr oedd gan f'anwylyd winllan ar fryncyn tra ffrwythlon; fe'i cloddiodd, a'i digaregu; fe'i plannodd â'r gwinwydd gorau; cododd dŵr yn ei chanol, a naddu gwinwryf ynddi. Disgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, ond fe ddygodd rawn drwg. Yn awr, breswylwyr Jerwsalem, a chwi, bobl Jwda, barnwch rhyngof fi a'm gwinllan. Beth oedd i'w wneud i'm gwinllan, yn fwy nag a wneuthum? Pam, ynteu, pan ddisgwyliwn iddi ddwyn grawnwin, y dygodd rawn drwg? Yn awr, mi ddywedaf wrthych beth a wnaf i'm gwinllan. Tynnaf ymaith ei chlawdd, ac fe'i difethir; chwalaf ei mur, ac fe'i sethrir dan draed; gadawaf hi wedi ei difrodi; ni chaiff ei thocio na'i hofio; fe dyf ynddi fieri a drain, a gorchmynnaf i'r cymylau beidio â glawio arni. Yn wir, gwinllan ARGLWYDD y Lluoedd yw tŷ Israel, a phobl Jwda yw ei blanhigyn dethol; disgwyliodd gael barn, ond cafodd drais; yn lle cyfiawnder fe gafodd gri.
Darllen Eseia 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 5:1-7
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos