Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 31

31
Ni Ddaw Cymorth o'r Aifft
1Gwae'r rhai sy'n mynd i lawr i'r Aifft am gymorth,
ac yn ymddiried mewn meirch,
a'u hyder mewn rhifedi cerbydau a chryfder gwŷr meirch,
ond sydd heb edrych at Sanct Israel, na cheisio'r ARGLWYDD.
2Ond y mae ef yn fedrus i ddwyn dinistr,
ac nid yw'n galw ei air yn ôl;
fe gyfyd yn erbyn tŷ'r rhai drygionus
ac yn erbyn swcwr y rhai ofer.
3Meidrolion yw'r Eifftiaid, nid Duw;
a chnawd yw eu meirch, nid ysbryd;
pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law,
fe fagla'r cynorthwywr ac fe syrthia'r sawl a gynorthwyir,
a darfyddant oll gyda'i gilydd.
4Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf:
“Fel y rhua llew neu lew ifanc uwchben ei ysglyfaeth—
ac er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn
nid yw'n dychryn rhag eu gwaedd, nac yn ofni rhag eu twrf—
felly y daw ARGLWYDD y Lluoedd i lawr
i frwydro dros Fynydd Seion a'i bryn.
5Fel yr adar yn hofran uwchben,
felly y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn Jerwsalem;
bydd yn amddiffyn a gwaredu, yn arbed ac achub.”
6Dychwelwch at yr un a adawsoch yn llwyr, blant Israel. 7Oherwydd yn y dydd hwnnw bydd pob un ohonoch yn dirmygu'r eilun arian a'r eilun aur a wnaeth eich dwylo mewn pechod.
8“Syrth Asyria drwy gleddyf, ond nid un dynol,
a chleddyf nad yw'n eiddo meidrolyn fydd yn ei ddifa;
os gallant ffoi rhag y cleddyf,
bydd y gwŷr ifainc yn gwneud llafur gorfod;
9bydd ei gadernid yn pallu gan fraw,
a'i swyddogion yn rhy ofnus i ffoi,”
medd yr ARGLWYDD, sydd â'i dân yn llosgi yn Seion
a'i ffwrn yn Jerwsalem.

Dewis Presennol:

Eseia 31: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd