Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd, “Fel y cynlluniais y bydd, ac fel y bwriedais y digwydd; drylliaf Asyria yn fy nhir, mathraf hi ar fy mynyddoedd; symudir ei hiau oddi arnat a'i phwn oddi ar dy gefn. Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear, a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd. Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd; pwy a'i diddyma? Ei law ef a estynnwyd; pwy a'i try'n ôl?”
Darllen Eseia 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 14:24-27
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos