O fel y syrthiaist o'r nefoedd, ti, seren ddydd, fab y wawr! Fe'th dorrwyd i'r llawr, ti, a fu'n llorio'r cenhedloedd. Dywedaist ynot dy hun, “Dringaf fry i'r nefoedd, dyrchafaf fy ngorsedd yn uwch na'r sêr uchaf; eisteddaf ar y mynydd cynnull ym mhellterau'r Gogledd. Dringaf yn uwch na'r cymylau; fe'm gwnaf fy hun fel y Goruchaf.” Ond i lawr i Sheol y'th ddygwyd, i lawr i ddyfnderau'r pwll. Bydd y rhai a'th wêl yn synnu a phendroni drosot, a dweud, “Ai dyma'r un a wnaeth i'r ddaear grynu, ac a ysgytiodd deyrnasoedd?
Darllen Eseia 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 14:12-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos