Fe drig y blaidd gyda'r oen, fe orwedd y llewpard gyda'r myn; bydd y llo a'r llew yn cydbori, a bachgen bychan yn eu harwain. Bydd y fuwch yn pori gyda'r arth, a'u llydnod yn cydorwedd; bydd y llew yn bwyta gwair fel ych. Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb, a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber. Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd, canys fel y lleinw'r dyfroedd y môr i'w ymylon, felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD. Ac yn y dydd hwnnw bydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd; bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef, a bydd ei drigfan yn ogoneddus.
Darllen Eseia 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 11:6-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos