“Am hynny, wele, fe'i denaf; af â hi i'r anialwch, a siarad yn dyner wrthi. Rhof iddi yno ei gwinllannoedd, a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith. Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid, fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.” “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, gelwi fi ‘Fy ngŵr’, ac ni'm gelwi mwyach ‘Fy Baal’; symudaf ymaith enwau'r Baalim o'i genau, ac ni chofir hwy mwy wrth eu henwau. Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti gyfamod â'r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y ddaear; symudaf o'r tir y bwa, y cleddyf, a rhyfel, a gwnaf i ti orffwyso mewn diogelwch. Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd. Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.” “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, ‘atebaf y nef, ac etyb hithau y ddaear; etyb y ddaear yr ŷd, y gwin a'r olew, ac atebant hwythau Jesreel; ac fe'i heuaf i mi fy hun yn y tir. Gwnaf drugaredd â Lo-ruhama; dywedaf wrth Lo-ammi, “Fy-mhobl wyt ti”, a dywed yntau, “Fy Nuw”.’ ”
Darllen Hosea 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hosea 2:14-23
4 Days
God loves you. Whoever you are, wherever you are in your life, God loves you! In this month, when we celebrate love, don't forget that God's love for you is greater than every other love. In this four day series, immerse yourself in God's love.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos