Gan hynny, fel y mae'r Ysbryd Glân yn dweud: “Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel, yn nydd y profi yn yr anialwch, lle y gosododd eich hynafiaid fi ar brawf, a'm profi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd. Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno, a dweud, ‘Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.’ Felly tyngais yn fy nig, ‘Ni chânt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.’ ” Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw. Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n “heddiw”, rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod. Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion â Christ, os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf. Dyma'r hyn y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud: “Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch â chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel.” Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses? Ac wrth bwy y digiodd ef am ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn farw yn yr anialwch? Wrth bwy y tyngodd na chaent fyth ddod i mewn i'w orffwysfa, os nad wrth y rhai a fu'n anufudd? Ac yr ydym yn gweld mai o achos anghrediniaeth y methasant ddod i mewn.
Darllen Hebreaid 3
Gwranda ar Hebreaid 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 3:7-19
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos