Y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gweini, ac yn offrymu'r un aberthau dro ar ôl tro, aberthau na allant byth ddileu pechodau. Ond am hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau am byth, eisteddodd ar ddeheulaw Duw, yn disgwyl bellach hyd oni osodir ei elynion yn droedfainc i'w draed. Oherwydd ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai a sancteiddir. Ac y mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio wrthym; oherwydd wedi iddo ddweud: “Dyma'r cyfamod a wnaf â hwy ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; rhof fy nghyfreithiau yn eu calon, ac ysgrifennaf hwy ar eu meddwl”
Darllen Hebreaid 10
Gwranda ar Hebreaid 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 10:11-16
30 Diwrnod
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru.
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos