Oherwydd cysgod sydd gan y Gyfraith o'r pethau da sy'n dod, nid gwir ddelw y dirweddau hynny; ac ni all hi o gwbl, trwy'r un aberthau sy'n cael eu hoffrymu'n barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddwyn yr addolwyr i berffeithrwydd am byth. Petasai hynny'n bosibl, oni fuasent wedi peidio â chael eu hoffrymu, gan na fuasai mwyach ymwybyddiaeth o bechodau gan addolwyr a oedd wedi eu puro un waith am byth? Ond y mae yn yr aberthau goffâd bob blwyddyn am bechodau; oherwydd y mae'n amhosibl i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. Dyna pam y mae ef, wrth ddod i'r byd, yn dweud: “Ni ddymunaist aberth ac offrwm, ond paratoaist gorff i mi. Poethoffrymau ac aberth dros bechod, nid ymhyfrydaist ynddynt. Yna dywedais, ‘Dyma fi wedi dod— y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf— i wneud dy ewyllys di, O Dduw.’ ” Y mae'n dweud, i ddechrau, “Aberthau ac offrymau, a phoethoffrymau ac aberth dros bechod, ni ddymunaist mohonynt ac nid ymhyfrydaist ynddynt.” Dyma'r union bethau a offrymir yn ôl y Gyfraith. Yna dywedodd, “Dyma fi wedi dod i wneud dy ewyllys di.” Y mae'n diddymu'r peth cyntaf er mwyn sefydlu'r ail. Yn unol â'r ewyllys honno yr ydym wedi ein sancteiddio, trwy gorff Iesu Grist sydd wedi ei offrymu un waith am byth.
Darllen Hebreaid 10
Gwranda ar Hebreaid 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 10:1-10
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos