Oherwydd wrth bwy o'r angylion y dywedodd Duw erioed: “Fy Mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw”? Ac eto: “Byddaf fi yn dad iddo ef, a bydd yntau yn fab i mi.” A thrachefn, pan yw'n dod â'i gyntafanedig i mewn i'r byd, y mae'n dweud: “A bydded i holl angylion Duw ei addoli.” Am yr angylion y mae'n dweud: “Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd, a'i weinidogion yn fflam dân”; ond am y Mab: “Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol, a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb. Ceraist gyfiawnder a chasáu anghyfraith. Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinio ag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid.”
Darllen Hebreaid 1
Gwranda ar Hebreaid 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Hebreaid 1:5-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos